Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 17 Hydref 2022
Amser:
14.00 -
14.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13006
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
2 Deisebau newydd
2.1 P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am y ddeiseb, a gofyn pa gynlluniau sydd ganddynt ar waith i edrych ar y mater fel rhan o’u blaenraglen waith, yn enwedig mewn perthynas â safonau gofal anifeiliaid.
2.2 P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros i'r ymateb i adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd gael ei gyhoeddi cyn penderfynu ar y camau priodol i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.
2.3 P-06-1300 Dylid adolygu'r penderfyniad yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi i 300 y cant,
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bu cryn dipyn o waith craffu mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn ar y mater. Nawr bod y rheoliadau wedi’u cytuno, mater i awdurdodau lleol bellach yw penderfynu sut i’w defnyddio. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, i ddiolch i’r deisebydd, ac i’w annog ef a’r rhai sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon i estyn allan at eu cynrychiolwyr yn eu hawdurdodau lleol.
2.4 P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y ddeiseb, ac i argymell bod y ddadl yn cael ei chynnal cyn diwedd y flwyddyn i gyd-fynd â’r hanner can mlwyddiant.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor bwysig yw hi i sicrhau yr eir i'r afael â'r heriau presennol, sy'n cyfyngu ar lais a rheolaeth unigolion.
Croesawodd yr Aelodau’r cynnig o ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog a chytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor a’i hystyried eto pan ddaw’r diweddariad i law.
3.2 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd ei fod wedi mynd â’r mater cyn belled ag y gall fel pwyllgor a chytunodd i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.
3.3 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn nodi ei siom nad oes ymateb wedi dod i law a gofyn iddynt gyflwyno ymateb yn awr.
Croesawodd y Pwyllgor hefyd y gwaith a wnaed gan Epilepsy Action Cymru, a chytunwyd i rannu adroddiad ac argymhellion y sefydliad gyda’r Gweinidog Iechyd, a gofyn am ei hymateb i’r rhain.
3.4 P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn gynharach eleni a'r cyhoeddiad diweddar gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ddatblygu rhaglen wella genedlaethol newydd ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol.
O ystyried y cyhoeddiad hwn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd a phawb sydd wedi ymgyrchu dros wasanaethau priodol i’r rheini â syndrom Tourette yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddeiseb.
3.5 P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor falch oedd y deisebwyr o ddod â’r materion i ddadl yn y Senedd ac i gryfder teimladau’r cyhoedd a gweithwyr nyrsio proffesiynol gael ei amlygu.
O ganlyniad i’r ddadl, cytunodd y Pwyllgor ei fod wedi mynd â’r ddeiseb cyn belled ag y gall, a dymunodd yn dda i’r Coleg Nyrsio Brenhinol â’i ymgyrchoedd yn y dyfodol, a chaeodd y ddeiseb.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
5 Blaenraglen waith
Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.